Tuesday 3 September 2013

NDCS: PENWYTHNOS CYNTAF ODDI CARTREF / FIRST TIME AWAY WEEKEND

ARCHEBWCH LE I'CH PLENTYN NAWR!
Penwythnos cyntaf oddi cartref Gwersyll Glan-llyn, Llanuwchllyn, Bala, Gwynedd LL23 7ST
5-6 Hydref 2013

Annwyl riant,

Os nad yw eich plentyn erioed wedi bod ar gwrs preswyl gyda'r NDCS o'r blaen, yna mae gennym ddigwyddiad sy'n berffaith ar ei gyfer. Rydym yn trefnu penwythnos cyntaf oddi cartref i blant byddar rhwng 8 a 11 oed, lle y gallant gyfarfod â phlant byddar eraill o'r un oedran, gwneud ffrindiau a chael llond trol o hwyl! Amgaeaf hysbyslen sy'n cynnwys rhagor o wybodaeth am y digwyddiad - cymerwch gip arni a chysylltwch â ni os oes gan eich plentyn ddiddordeb. Dyma ragor o wybodaeth.......... Pam archebu lle i'ch plentyn mewn digwyddiad gan yr NDCS?
• Rydym yn gwneud yn siŵr y gall pawb ddeall ei gilydd. Caiff y cymorth cyfathrebu ei deilwra i anghenion eich plentyn, gan gynnwys Iaith Arwyddion Prydain (BSL) neu Saesneg â Chymorth Arwyddion (SSE). I blant byddar llafar, rydym yn sicrhau bod pob cyfarwyddyd yn glir ac yn cael ei ailadrodd os oes angen.
• Gall Rhaglen Gweithgaredd Ieuenctid yr NDCS gynorthwyo plant a phobl ifanc byddar i: o ddatblygu sgiliau cyfathrebu o meithrin mwy o hyder a hunan-fri o creu cyfeillgarwch gyda phlant a phobl ifanc byddar eraill o meithrin disgwyliadau uwch o'r hyn y gallant ei gyflawni
• Rydym eisiau i'n digwyddiadau fod yn hygyrch i bob teulu o wahanol gymunedau. Cysylltwch â ni (gweler y manylion isod) os oes gan eich plentyn unrhyw ofynion diwylliannol, anghenion cyfathrebu neu ofynion deietegol penodol.
• Rydym yn gweithio'n galed i sicrhau bod eich plentyn yn teimlo'n hapus, yn cael ei gynnwys yn y gweithgareddau ac yn teimlo'n ddiogel. Mae pob aelod o staff yn mynd drwy broses wirio'r heddlu ac mae ganddynt brofiad o weithio gyda phlant a phobl ifanc. Rydym yn asesu risg pob gweithgaredd ac yn ystyried unrhyw faterion diogelwch ychwanegol mewn perthynas â chyfathrebu â phlant a phobl ifanc byddar. Ble y gallaf gael rhagor o wybodaeth?
• Ewch i'n gwefan www.ndcs.org.uk/whatson i gael rhagor o fanylion am y digwyddiad a rhagor o wybodaeth am sut yr ydym yn diogelu ac yn cynorthwyo plant a phobl ifanc yn ein digwyddiadau. Sut mae archebu lle i'm plentyn yn y digwyddiad?
• Gallwch lawrlwytho ffurflen o'n gwefan, ei llenwi a'i dychwelyd atom.
• Cysylltwch â ni ac fe anfonwn ffurflen archebu atoch. Ni allwn gadarnhau lle i'ch plentyn nes i ni dderbyn ffurflen archebu.

Caiff y digwyddiad hwn ei gynnal drwy gyfrwng y Saesneg ac Iaith Arwyddion Prydain. Mae croeso i chi gysylltu â ni os bydd angen unrhyw gymorth arnoch neu os oes gennych unrhyw gwestiynau.

Dymuniadau gorau
Sally McNamara Trefnydd y Digwyddiad Rhif uniongyrchol 0121 234 9822
E-bost sally.mcnamara@ndcs.org.uk

BOOK A PLACE FOR YOUR CHILD NOW!
First Time Away Weekend Gwersyll Glan-Llyn, Llanuwchllyn, Bala, Gwynedd, LL23 7ST
5-6 October 2013

Dear Parent,
If your child has never been on a residential with NDCS before, then we have an event that’s just right for them. We are organising a first time away weekend for deaf children aged 8-11 years, where they can meet other deaf children of a similar age, and make friends whilst having lots of fun! Please find enclosed a flyer with more information on the event – have a read and contact us if your child is interested in attending. Here’s a bit more information......... Why book an NDCS event for your child?
• We make sure that everyone can understand each other. Communication support is tailored to your child’s needs including British Sign Language (BSL) or Sign Supported English (SSE). For oral deaf children, we ensure that all instructions are given clearly and repeated if necessary.
• The NDCS Youth Activity Programme can support deaf children and young people to: o develop communication skills o have higher confidence and self esteem o build friendships with other deaf children and young people o have higher expectations of what they can achieve
• We want our events to be accessible to all families from different communities. Please contact us (details below) if you have any specific cultural requests, communication needs, or dietary requirements for your child.
• We work hard to ensure every child feels happy, included, and safe. All staff have police checks and are trained and experienced in working with children and young people. We risk assess all activities and take into consideration additional safety issues in relation to communicating with deaf children and young people. Where can I get more information?
• Go to our website www.ndcs.org.uk/whatson for further details about the event and more information on how we protect and support children and young people at our events. How do I book my child onto the event?
• Download a booking form from our website, fill it in and send it back to us.
• Get in touch and we’ll send you a booking form. Your child’s place can’t be confirmed until we have received a booking form. Don’t hesitate to get in touch if you need any assistance or have any questions.

Best wishes
Sally McNamara
Event Organiser
Direct dial 0121 234 9822 Email sally.mcnamara@ndcs.org.uk

No comments:

Post a Comment

Note: only a member of this blog may post a comment.