Tuesday 3 September 2013

CYNHADLEDD WYTHNOS RHIENI / PARENTS' WEEK CONFERENCE






CYNHADLEDD WYTHNOS RHIENI

Sicrhau ymgysylltu rhwng rhieni a gwasanaethau cymorth i deuluoedd a rhieni

Dydd Mawrth, 24 Medi 2013; 9.30yb - 4yp

Holt Lodge, Wrecsam


Bydd Cynhadledd Wythnos Rhieni Plant yng Nghymru eleni yn ymwneud â sicrhau ymgysylltu rhwng rhieni a gwasanaethau cymorth i deuluoedd a rhieni.

Mae'r gwasanaethau cymorth i deuluoedd a rhieni sy'n cael eu darparu gan Dechrau'n Deg, Teuluoedd yn Gyntaf a thrwy lifoedd ariannu eraill yn cael eu herio fwy i estyn allan i deuluoedd agored i niwed. Ffocws y digwyddiad hwn fydd tystiolaeth ymchwil ynghylch ymgysylltu â theuluoedd ac enghreifftiau ymarferol o'r hyn mae gwahanol ardaloedd yn ei wneud i greu cysylltiad llwyddiannus â theuluoedd. Rydym yn gobeithio y bydd y digwyddiad yn cynyddu dealltwriaeth cynrychiolwyr ac yn rhoi cyfle iddynt ystyried eu polisi a'u hymarfer eu hunain, ochr yn ochr â rhannu profiadau ac arfer gorau.

Pwy ddylai fod yn bresennol?

Gweithwyr proffesiynol sy'n darparu cymorth i deuluoedd a rhieni ac unrhyw un sydd â diddordeb mewn cymorth i deuluoedd a rhieni neu y mae hynny'n brif faes polisi iddynt.

Siaradwyr sydd wedi'u Cadarnhau:

Bridges, Rheolwr Prosiect Dechrau'n Deg ar gyfer Bro Morgannwg (Wrecsam yn unig)

Gweithiwr Cymdeithasol Cymwysedig yw Antonia, a fu gynt yn gweithio gyda phobl ifanc yn eu harddegau yn y system ofal, cyn symud i dîm Derbyniadau Gwasanaethau Cymdeithasol i Blant Bro Morgannwg fel Uwch Ymarferydd. Yn 2004 daeth yn Rheolwr Cychwyn Cadarn ym Mro Morgannwg, lle datblygodd brosiect Rhieni Ifanc. Wrth i Dechrau'n Deg gael ei ehangu, cafodd ei secondio i Lywodraeth Cymru am flwyddyn er mwyn cynnal yr ehangu ar lefel genedlaethol. Yn ystod y cyfnod hwn, cafodd y fraint o fedru ymweld â phob prosiect Dechrau'n Deg yng Nghymru, gan asesu a chefnogi eu rhaglenni ehangu. Mae bellach wedi dychwelyd i'w rôl fel Rheolwr Prosiect Dechrau'n Deg ym Mro Morgannwg, a bydd yn rhannu ei mewnwelediad a'i phrofiadau o ymgysylltu'n effeithiol â theuluoedd mewn gwasanaethau cymorth i fagu plant.

Rachel Calam, Athro Seicoleg Plant a Theuluoedd, Pennaeth Ysgol y Gwyddorau Seicolegol, Prifysgol Manceinion (Wrecsam yn unig)

Mae ymchwil yr Athro Calam ar fagu plant ac ymaddasiad plant yn canolbwyntio'n arbennig ar broblemau ymddygiad plant ifanc, ac yn benodol ar ddulliau o gyflwyno a chymhwyso hynny i gyd-destunau newydd a grwpiau newydd o gyfranogwyr. Mae hi'n cydweithio â'r Athro Matt Sanders a'i dîm ym Mhrifysgol Queensland, Awstralia, mewn gwaith ymchwil ar ddulliau newydd o roi ymyriadau magu plant ar waith, gan gynnwys dulliau hunan-gyfeiriadol, cyfryngol a rhai sy'n defnyddio'r rhyngrwyd o gyflwyno Rhaglen Magu Plant Gadarnhaol y Tair P. Mae hi a'i chydweithwyr hefyd yn profi ffyrdd o sicrhau'r cyfranogiad mwyaf posib gan rieni mewn rhaglenni ar gyfer rhieni plant sy'n dioddef o asthma a diabetes, yn ogystal â threialu dull newydd, y Tair P i Fabanod. Mae ymyriadau magu plant i deuluoedd lle mae gan riant anawsterau iechyd meddwl sylweddol hefyd ar waith, yn cynnwys treial ar-lein i rieni ag anhwylder deubegynol, wedi'i ariannu gan y Cyngor Ymchwil Feddygol.

Dr. Carole Sutton yw'r Uwch Gymrawd Ymchwil ar Ymweliad a Chyfarwyddwr Cyswllt yr Uned Astudiaethau Magu Plant ym Mhrifysgol De Montfort (Wrecsam yn unig)
Swydd wreiddiol Dr Sutton oedd gweithiwr cymdeithasol ym meysydd iechyd, iechyd meddwl a phlant a theuluoedd, cyn iddi astudio ar gyfer gradd mewn seicoleg a doethuriaeth mewn addysg rhieni, a hynny gyda'r Athro Martin Herbert. Mae hi'n Seicolegydd Siartredig. Gyda Di Hampton datblygodd Parenting Positively, 'pecyn' magu plant y mae hi, Di a hyfforddwyr eraill wedi'i gyflwyno ledled Prydain ac yn Ewrop. Mae hi wedi cyhoeddi'n eang, wedi datblygu'r MSc yn Theori ac Ymarfer Magu Plant ym Mhrifysgol De Montfort ac ar hyn o bryd mae hi'n hyrwyddo'r ymgyrch Five Praises a Day for Children gydag Ymwelwyr Iechyd yng Nghaerlyr, Swydd Gaerlyr a Rutland.

Angela Bourge, Cyngor Caerdydd ac Andy Senior, Plant yng Nghymru (Caerdydd a Wrecsam)

Mae Angela Bourge wedi'i chyflogi fel Rheolwr Gweithredol gyda Gwasanaethau Plant Caerdydd, lle mae hi'n gyfrifol am Adnoddau Plant. Cefndir gwaith cymdeithasol sydd gan Angela, gan ei bod wedi gweithio ym maes Gwasanaethau Plant ers 25 mlynedd. Mae'n credu'n angerddol mewn cymorth i deuluoedd ac mae ganddi ddiddordeb arbennig mewn cyfranogiad rhieni.

Mae Andy Senior wedi gweithio ym maes plant a theuluoedd yng Nghymru ers dros 18 mlynedd yn y sectorau statudol a gwirfoddol ac mae ganddo ddiddordeb arbennig mewn datblygu prosiectau, cynllunio ar sail canlyniadau a gwasanaethau ymyrraeth gynnar ac ataliaeth.

Bydd Angela ac Andy yn cyd-gyflwyno canfyddiadau allweddol prosiect ymchwil diweddar ynghylch gwella'r ymgysylltu â thadau a gofalwyr gwryw plant sydd ar y Gofrestr Amddiffyn Plant neu sy'n Blant mewn Angen.

Jonathan Scourfield, Athro Gwaith Cymdeithasol ym Mhrifysgol Caerdydd (Caerdydd a Wrecsam)

Mae gan Jonathan ddiddordebau ymchwil amrywiol ac yn eu plith mae lles plant a gwaith cymdeithasol gyda dynion. Mae ei lyfrau yn cynnwys Gender and Child Protection (Palgrave Macmillan, 2003), Working with Men in Health and Social Care (Sage, 2007, gyda Featherstone a Rivett) a Muslim Childhood (Oxford University Press, 2013, gyda Gilliat-Ray, Khan ac Otri). Ar hyn o bryd mae'n ymchwilio i ymyriadau gyda thadau fel rhan o gymrodoriaeth sy'n cael ei hariannu gan y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol. Testun ei gyflwyniad fydd canfyddiadau arolwg diweddar ar draws y Deyrnas Unedig i ganfod pa fath o waith sy'n cael ei wneud gyda thadau yn y gwasanaethau plant a theuluoedd.

Lynn McDonald, Athro Ymchwil Gwaith Cymdeithasol, Prifysgol Middlesex, Llundain Datblygydd Rhaglen Teuluoedd ac Ysgolion Ynghyd (FAST) (Caerdydd a Wrecsam)

Athro Ymchwil Gwaith Cymdeithasol ym Mhrifysgol Middlesex yw Lynn McDonald ac mae ganddi ddoethuriaeth mewn Seicoleg. Lynn yw Datblygydd a Sylfaenydd Teuluoedd ac Ysgolion Ynghyd (FAST), sef rhaglen ymyrraeth gynnar ac ataliaeth seiliedig ar dystiolaeth sydd wedi ennill gwobrau ac sydd wedi bod yn effeithiol wrth wella perthnasoedd teuluoedd a meithrin ffactorau amddiffynnol ar gyfer plant a'u teuluoedd. Bydd Lynn yn rhannu gyda'r cynrychiolwyr rai o negeseuon papur BPS "Technique is Not Enough: A framework for ensuring that evidence-based parenting programmes are socially inclusive", yr oedd hi'n un o'i gyd-awduron. Mae'r papur yn edrych ar sut gall rhaglenni magu plant effeithiol sicrhau eu bod yn ymgysylltu â'r rhai sy'n fwyaf tebygol o elwa: rhieni ar incwm isel a'r rheiny sydd ar y cyrion ac wedi'u heithrio'n gymdeithasol. Bydd hi hefyd yn archwilio cyfraddau cadw rhieni lleiafrifol incwm isel, a'r strategaethau sy'n eu cadw mewn cysylltiad. Bydd Lynn hefyd yn rhannu ei phrofiadau o ddatblygu a chyflwyno rhaglen FAST.

Rose Richards, Cydlynydd Magu Plant y Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid, Cyngor Sir y Fflint (Caerdydd a Wrecsam)

Mae Rose wedi gweithio o fewn y Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid yn Sir y Fflint ers 1988. Yng nghanol y 1990au, sylweddolodd y tîm fod angen cynnwys rhieni yn y gwaith roedden nhw'n ei wneud i reoli ymddygiad heriol plentyn er mwyn lleihau'r perygl o lithro'n ôl. Fe aethon nhw at Dr Carole Sutton, a bu hi'n rhoi hyfforddiant i'r tîm ar theori ac ymarfer 'Positive Parenting'. Yn 2003 penodwyd Rose yn Gydlynydd Magu Plant Cyfiawnder Ieuenctid. Yn dilyn cynnig llwyddiannus o dan Agenda Teuluoedd yn Gyntaf gan Grwp Strategaeth Magu Plant Sir y Fflint, mae Rose wrthi ar hyn o bryd yn ehangu'r gwasanaethau i rieni pobl ifanc yn y sir, a bydd yn sôn am ymyrraeth gynnar gyda'r grwp yma o rieni.

COST:

Aelodau: £60 Heb fod yn Aelodau: £70

Anfonwch e-bost i bookings os ydych angen ffurflen archebu ac anfon nol i:

Plant yng Nghymru
25 Plas Winsor
Caerdydd CF10 3BZ

Neu E-bost i: bookings@childreninwales.org.uk
Neu Ffacs i: 029 2034 3134



PARENTS' WEEK CONFERENCE:

Engaging parents in family and parenting support services

Tuesday, 24 September 2013; 9.30am - 4pm

Holt Lodge, Wrexham




Children in Wales' Parents' Week Conference this year will be around the theme of engaging parents in family and parenting support services.

Family and parenting support services provided by Flying Start, Families First and through other funding streams are increasingly being challenged to extend their reach to vulnerable families. The focus of the event will be on research evidence around engaging families and practical examples of what different areas are doing to successfully engage families. We hope the event will increase delegates understanding and give them the opportunity to consider their own policy and practice alongside sharing experiences and best practice.

Who should attend?

Professionals providing family and parenting support and anyone with a policy lead or interest in family and parenting support.

Confirmed Speakers:

Antonia Bridges, Flying Start Project Manager for the Vale of Glamorgan (Wrexham only)

Antonia is a qualified Social Worker who previously worked with teenagers in the care system and then moved into the Intake team of the Vale of Glamorgan within Children's Social Services as a Senior Practitioner. In 2004 she became the Sure Start Manager in the Vale of Glamorgan where she developed a Young Parents project. With the expansion of Flying Start she was seconded into the Welsh Government for one year to support expansion nationally. During this time she was privileged to be able to visit every Flying Start project in Wales, assessing and supporting their expansion programmes. She has now returned to her role as Flying Start Project Manager for the Vale of Glamorgan and will share her insights and experiences of engaging families effectively in parenting support services.

Rachel Calam, Professor of Child and Family Psychology, Head of the School of Psychological Sciences, University of Manchester (Wrexham only)

Professor Calam's research in parenting and child adjustment has a particular focus on young children's behaviour problems, and particularly forms of delivery and application to new contexts and participant groups. She collaborates with Professor Matt Sanders and his team at the University of Queensland, Australia, on research on novel forms of implementation of parenting interventions which include self-directed, media and internet-based delivery of the Triple P Positive Parenting Program. She and colleagues are also testing ways of maximising parent participation in programmes for parents of children with asthma and diabetes and are also trialling a new approach, Baby Triple P. Studies of parenting intervention for families with a parent with significant mental health difficulties are under way including an online trial for parents with bipolar disorder funded by the Medical Research Council

Dr Carole Sutton, Visiting Senior Research Fellow and Associate Director of the Unit for Parenting Studies at De Montfort University (Wrexham only)

Dr Sutton originally worked as a social worker in the fields of health, mental health and children and families, and then studied for a degree in psychology and a doctorate in parent education, working with Professor Martin Herbert. She is a Chartered Psychologist. With Di Hampton she developed Parenting Positively, a parenting 'package' which she, Di and other trainers have taught throughout Britain and in Europe. She has published widely, has developed the MSc Theory and Practice of Parenting at De Montfort University and is currently promoting the Five Praises a Day for Children campaign with Health Visitors in Leicester, Leicestershire and Rutland.

Angela Bourge, Cardiff Council & Andy Senior, Children in Wales (Cardiff and Wrexham)

Angela Bourge is employed as an Operational Manager with Cardiff Children's Services where she has responsibility for Children's Resources. Angela has a social work background, having worked in Children's Services for 25 year. She has a passion for family support and a particular interest in parent participation.

Andy Senior has worked in the children and families field in Wales for over 18 years in both the statutory and voluntary sectors, and has a particular interest in project development, outcomes based planning and early intervention and prevention services.

Angela and Andy will be co-presenting the key findings of a recent research project around improving the engagement of the fathers and male carers of children on the Child Protection Register or who are Children in Need.

Jonathan Scourfield, Professor of Social Work at Cardiff University (Cardiff and Wrexham)

Jonathan Scourfield has varied research interests, among which are child welfare and social work with men. His books include Gender and Child Protection (Palgrave Macmillan, 2003), Working with Men in Health and Social Care (Sage, 2007, with Featherstone and Rivett) and Muslim Childhood (Oxford University Press, 2013, with Gilliat-Ray, Khan and Otri). He is currently researching interventions with fathers as part of a fellowship funded by the Economic and Social Research Council. His presentation will be the findings of a recent UK-wide survey to find out what kind of work is being done with fathers in child and family services.

Lynn McDonald, Professor of Social Work Research, Middlesex University, London

Families and Schools Together (FAST) Programme Developer (Cardiff and Wrexham)

Lynn McDonald is a Professor of Social Work Research at Middlesex University and has a doctorate in Psychology. Lynn is the Programme Developer and founder of Families and Schools Together (FAST), which is an award winning evidence based early intervention and prevention programme that has proven effective in enhancing family relationships and building protective factors for children and their families. Lynn will share with delegates some of the messages from the BPS "Technique is Not Enough: A framework for ensuring that evidence-based parenting programmes are socially inclusive" paper which she co-authored. The paper explores how effective parenting programmes can ensure they engage those most likely to benefit: parents on low income and those who are marginalised and socially excluded. She will also explore retention rates of low income minority parents, and the strategies which keep them involved. Lynn will also share her experiences developing and delivering the FAST programme.

Rose Richards, Youth Justice Service Parenting Coordinator, Flintshire County Council (Cardiff and Wrexham)
Rose has worked within the Youth Justice Service in Flintshire since 1988. During the mid 1990s the team recognised the need to engage parents in the work they undertook managing a child's challenging behaviour in order to reduce the risk of recidivism. Dr Carole Sutton was engaged and provided training for the team in the theory and practice of Positive Parenting. In 2003 Rose was appointed as the Youth Justice Parenting Coordinator. Following a successful bid under the Families First Agenda by the Flintshire Parenting Strategy Group, Rose is currently expanding the services for the parents of adolescents in the county and will be talking about early intervention with this group of parents.

COST:

Members: £60 Non-members: £70

Please email bookings if you require a booking form and send back to:
Children in Wales
25 Windsor Place
Cardiff CF10 3BZ

Or E-mail to: bookings@childreninwales.org.uk
Or Fax to: 029 2034 3134


No comments:

Post a Comment

Note: only a member of this blog may post a comment.