Thursday 11 July 2013

CYMDEITHAS ADDYSG GAN Y GYMDEITHAS SYNDROME DOWN

Cynhadledd i deuluoedd a phobl broffesiynol er mwyn trafod sut i hybu datblygiad addysgol a chymdeithasol plant gyda Syndrom Down. Yr Interchange, Bae Colwyn, LL29 9YF DYDD IAU, MEDI 12fed, 2013 Am fwy o wybodaeth cysylltwch â Jane McIlveen ar 01492 621066 / jane.mcilveen@downs-syndrome.org.uk

DOWN'S SYNDROME ASSOCIATION EDUCATION CONFERENCE


A conference for families and professionals to promote educational and social development

Thursday 12th September
The Interchange, Colwyn Bay, LL29 9YF

What is it about? 
You will be provided with information about the learning and language profiles of children with Down's syndrome. You will be given advice and strategies for supporting learning in early years and primary education settings including: understanding the learning profile and accessing the curriculum, language and communication skills and supporting social development and behaviour.
Who is it for? 
For parents/family carers who wish to understand what happens in education settings and how they can support their child's education. 
For practitioners working/supporting children with Down's syndrome in special and mainstream early years and primary education settings. 
For more information
Jane: 01492 621066    jane.mcilveen@downs-syndrome.org.uk

SESIWN HWYL

Sesiwn am ddim i blant anabl, plant gydag anghenion ychwanegol - a’u brodyr a’u chwiorydd.

Chwaraeon, pêl-droed, pêl fasged, castell neidio, bwrdd crefft, therapi adlam, teganau meddal, diod.

CANOLFAN HAMDDEN ARFON, CAERNARFON

Dydd Iau, Awst 8fed

10.30 a.m. > 12.30 p.m.

I archebu lle cysylltwch â Lynne Pearce, Gwasanaeth Cynnal Gofalwyr
01766 772956  / help@carersoutreach.org.uk 

FUN SESSION

ARFON LEISURE CENTRE, CAERNARFON

Thursday, 8th August, 2013

10.30 a.m. > 12.30 pm.

Free fun session for children with disablities, children with additional needs, and their brothers and sisters.

Games, football, basketball, bouncy castle, craft table, soft play, rebound therapy. Refreshments.

To book a place please contact:
Lynne Pearce, Carers Outreach Service
01766 772956  / help@carersoutreach.org.uk 

SESIYNAU HWYL

Sesiynau am ddim i blant anabl, plant gydag anghenion ychwanegol - a’u brodyr a’u chwiorydd.

Chwaraeon, pêl-droed, hoci, castell neidio, wal ddringo, therapi adlam, teganau meddal, a diod i bawb.

Gorffennaf 30ain, Awst 7fe, 14eg, 21ain, 27ain.

10.30 a.m. > 12.30 p.m.

CANOLFAN HAMDDEN Y BERMO


I archebu lle cysylltwch â Gwyneth Roberts, Gwasanaeth Cynnal Gofalwyr:   01766 772956 / gwyneth.r@carersoutreach.org.uk 

FUN SESSIONS

Free fun sessions for children with disabilities, children with additional needs, and their brothers and sisters. 

Games, football, hockey, bouncy castle, climbing wall, soft play, rebound therapy.  Refreshments

PAVILION LEISURE CENTRE, BARMOUTH

30th July, 7th, 14th, 21st August

10.30 a.m. > 12.30 p.m.

To book a place please contact:
Gwyneth Roberts, Carers Outreach Service
01766 772956  / gwyneth.r@carersoutreach.org.uk 

Tuesday 9 July 2013

CYMDEITHAS GENEDLAETHOL AWTISTIAETH - SEMINARAU AWTISTIAETH I DEULUOEDD

Anghenion Synhwyraidd
Ar gyfer rhieni plant hyd at 16 oed
Gwybodaeth am y seminar
Mae Anghenion Synhwyraidd yn un o’r
Seminarau Awtistiaeth i Deuluoedd sy’n darparu
gwybodaeth a chyngor i rieni a gofalwyr plant
sydd wedi cael diagnosis bod ganddyn nhw
awtistiaeth.
Cost y seminar
Gall teuluoedd archebu dau le yn y seminar
Anghenion Synhwyraidd am £30. Caiff teuluoedd
becyn adnoddau yn llawn o wybodaeth
ddefnyddiol, cyngor a chanllawiau cefnogaeth.
Cyflwynir y seminar hwn gan hwylusydd profiadol
hyfforddedig o Gymdeithas Genedlaethol
Awtistiaeth.
Archebu lle
Nodwch mai yn Saesneg y cyflwynir y
seminar.
Llenwch a dychwelwch y ffurflen gais sydd
ynghlwm neu cysylltwch â Thîm Seminarau
Teuluol NAS am ragor o wybodaeth.
Enw: Karen Abdy
E-bost: familyseminars@nas.org.uk
Ffôn: 07425 624592
Dyddiad y seminar:
Amser dechrau
a gorffen:
Enw’r lleoliad:
Cyfeiriad y lleoliad:
Darperir lluniaeth ysgafn, ond dewch â chinio
gyda chi.
Bydd y seminar yn helpu teuluoedd i:
> ystyried y systemau synhwyrau gwahanol a
sut maent yn gweithio gyda’i gilydd
> archwilio sut y gellir prosesu gwybodaeth am
y synhwyrau’n wahanol
> trafod sut y gall plant ag awtistiaeth gael
profiadau synhwyrau gwahanol
> rhannu strategaethau a dulliau gweithredu i
helpu ag anghenion y synhwyrau
.
27 Medi 2013
10.00 yb – 2.30 yp
Capel Berea Newydd
Rhodfa Dewi Sant
ger Ffordd Penrhos
Bangor
Gwynedd
LL57 2AX

THE NATIONAL AUTISTIC SOCIETY: AUTISM SEMINARS FOR FAMILIES

Sensory Needs
For parents of children aged up to 16
About the seminar
Sensory Needs is one of the Autism Seminars for
Families which provides information and advice to
parents and carers of children and young people
with autism.
Seminar Cost
Families can book two places on a Sensory
Needs seminar for £30. Families receive a full
resource pack of useful information, advice and
support guidelines. This seminar is delivered by
an experienced and trained facilitator from The
National Autistic Society.
Book a place
Please complete and return the attached
application form or contact the NAS Family
Seminar Team for more information.
Name: Karen Abdy
Email: familyseminars@nas.org.uk
Telephone: 07425 624592
Seminar date:
Start and finish times:
Venue name:
Venue Address:
Light refreshments will be provided but
please bring your own lunch.
The seminar will help families to:
> consider the different sensory systems
and how they work together
> examine how sensory information may
be processed differently
> discuss how children with autism may
have different sensory experiences
> share strateies and approaches to help
with sensory needs.
27 September 2013
10.00am – 2.30pm
Berea Newydd Chapel
St Davids Drive
Off Penrhos Road
Bangor
Gwynedd
LL57 2AX

Tuesday 2 July 2013

Parents' Week Conference: Engaging Parents in Family and Parenting Support Services/ Cynhadledd Wythnos Rhieni: Sicrhau Ymgysylltu Rhwng Rhieni a Gwasanaethau Cymorth i Deuluoedd a Rhieni

CiW Logo with txt

Cynhadledd Wythnos Rhieni:

Sicrhau ymgysylltu rhwng rhieni a gwasanaethau cymorth i deuluoedd a rhieni
        


Dydd Mercher, 18 Medi 2013; 9.30am - 4pm
Future Inns, Bae Caerdydd
Dydd Mawrth, 24 Medi 2013; 9.30yb - 4yp
Holt Lodge, Wrecsam




Bydd Cynhadledd Wythnos Rhieni Plant yng Nghymru eleni yn ymwneud â sicrhau ymgysylltu rhwng rhieni a gwasanaethau cymorth i deuluoedd a rhieni.

Mae'r gwasanaethau cymorth i deuluoedd a rhieni sy'n cael eu darparu gan Dechrau'n Deg, Teuluoedd yn Gyntaf a thrwy lifoedd ariannu eraill yn cael eu herio fwy i estyn allan i deuluoedd agored i niwed. Ffocws y digwyddiad hwn fydd tystiolaeth ymchwil ynghylch ymgysylltu â theuluoedd ac enghreifftiau ymarferol o'r hyn mae gwahanol ardaloedd yn ei wneud i greu cysylltiad llwyddiannus â theuluoedd. Rydym yn gobeithio y bydd y digwyddiad yn cynyddu dealltwriaeth cynrychiolwyr ac yn rhoi cyfle iddynt ystyried eu polisi a'u hymarfer eu hunain, ochr yn ochr â rhannu profiadau ac arfer gorau. 

Pwy ddylai fod yn bresennol?
Gweithwyr proffesiynol sy'n darparu cymorth i deuluoedd a rhieni ac unrhyw un sydd â diddordeb mewn cymorth i deuluoedd a rhieni neu y mae hynny'n brif faes polisi iddynt.

Siaradwyr sydd wedi'u Cadarnhau:
Alison Prowle, Uwch Ddarlithydd Plentyndod Cynnar, Prifysgol Caerwrangon (Caerdydd yn unig)
Mae gan Alison brofiad helaeth o ddarpariaeth blynyddoedd cynnar ac ymyriadau teulu fel academydd, fel ymarferydd rheng flaen ac fel uwch reolwr ym maes llywodraeth leol. Ar ddechrau ei gyrfa roedd yn Athrawes Ysgol Gynradd. Yn ystod ei chyfnod fel Rheolwr Gwasanaethau Integredig ar gyfer Plant a Theuluoedd ym Mlaenau Gwent, swydd a ddaliodd tan Ebrill 2012, Alison oedd yn gyfrifol am reoli ystod o wasanaethau i blant, pobl ifanc a theuluoedd, yn cynnwys gwasanaethau Blynyddoedd Cynnar a Gofal Plant, Dechrau'n Deg, Canolfannau Integredig i Blant, Darpariaeth Magu Plant, Darpariaeth Chwarae a Gwasanaethau Lles Addysg. Bu hefyd yn chwarae rhan weithredol yng ngham Arloesi Llywodraeth Cymru o fenter Teuluoedd yn Gyntaf. Ers mis Ebrill 2013 mae Alison wedi bod yn dysgu ac yn ymchwilio ym maes y Blynyddoedd Cynnar, Magu Plant a Theuluoedd yn y Ganolfan Plentyndod Cynnar, Prifysgol Caerwrangon. Bydd hi'n trafod pwysigrwydd bod yn barod i newid wrth gyflwyno ymyriadau magu plant i deuluoedd cythryblus.

Lorraine Khan, Cyfarwyddwr Cyswllt Plant a Phobl Ifanc yn y Ganolfan Iechyd Meddwl ac Uwch Gymrawd Ymchwil - Sefydliad Seiciatreg - Coleg Kings, Llundain (Caerdydd yn unig)
Ers 2009, mae Lorraine a Phrif Economydd Iechyd y Ganolfan Iechyd Meddwl wedi bod yn ymchwilio i ffyrdd o wella mynediad rhieni at raglenni magu plant sydd wedi'u seilio ar dystiolaeth a'u hymwneud â hwy. Mae gan dechnegau cadarnhaol wrth fagu plant gyfraniad pwysig i'w wneud o ran diogelu cyfleoedd bywyd plant sydd â phroblemau ymddygiad cynnar. Mae'r Ganolfan Iechyd Meddwl wedi cwblhau nifer o adroddiadau yn ymchwilio i gost-effeithiolrwydd rhaglenni magu plant a'r rhwystrau a'r hwyluswyr sy'n dylanwadu ar effeithiolrwydd rhaglenni i rieni a phlant mewn lleoliadau bywyd go iawn. Bydd Lorraine yn siarad am y gwaith hwn, yn ogystal ag am rai o'r prosiectau dilynol sy'n cynnal ymarfer rheng flaen.

Yr Athro Judy Hutchings OBE, Cyfarwyddwr y Ganolfan ar gyfer Ymyrraeth Gynnar ar sail Tystiolaeth (CEBEI), Prifysgol Bangor (Caerdydd yn unig)
Mae'r Athro Judy Hutchings wedi gweithio yng Ngogledd Cymru ers 1973, fel Seicolegydd Clinigol Ymgynghorol am flynyddoedd lawer, gan weithio gyda phlant sydd ag anawsterau sylweddol o ran ymddygiad. Mae hi'n gwneud gwaith ymchwil gyda phlant a fu'n destun atgyfeiriad a'u teuluoedd, a gwaith ataliol cynnar gyda rhieni, plant ac athrawon.

Llwyddodd i sicrhau grantiau gwerth mwy na £1.5 miliwn ac mae wedi cyhoeddi'n helaeth. Mae wedi darlithio a dysgu yn rhyngwladol, gan gynnwys yn y Ffindir, Denmarc, Iwerddon, Awstralia, gwlad Pwyl a Phortwgal. Bydd hi'n rhannu peth o'r hyn mae hi wedi'i ddysgu yn sgîl 40 mlynedd o brofiad o ddarparu cefnogaeth i rieni a phlant, a bydd yn trafod sut gellid creu gwell cysylltiad rhwng gwasanaethau er mwyn gweithio'n fwy effeithiol gyda theuluoedd.

Antonia Bridges, Rheolwr Prosiect Dechrau'n Deg ar gyfer Bro Morgannwg (Wrecsam yn unig)
Gweithiwr Cymdeithasol Cymwysedig yw Antonia, a fu gynt yn gweithio gyda phobl ifanc yn eu harddegau yn y system ofal, cyn symud i dîm Derbyniadau Gwasanaethau Cymdeithasol i Blant Bro Morgannwg fel Uwch Ymarferydd. Yn 2004 daeth yn Rheolwr Cychwyn Cadarn ym Mro Morgannwg, lle datblygodd brosiect Rhieni Ifanc. Wrth i Dechrau'n Deg gael ei ehangu, cafodd ei secondio i Lywodraeth Cymru am flwyddyn er mwyn cynnal yr ehangu ar lefel genedlaethol. Yn ystod y cyfnod hwn, cafodd y fraint o fedru ymweld â phob prosiect Dechrau'n Deg yng Nghymru, gan asesu a chefnogi eu rhaglenni ehangu. Mae bellach wedi dychwelyd i'w rôl fel Rheolwr Prosiect Dechrau'n Deg ym Mro Morgannwg, a bydd yn rhannu ei mewnwelediad a'i phrofiadau o ymgysylltu'n effeithiol â theuluoedd mewn gwasanaethau cymorth i fagu plant.

Rachel Calam, Athro Seicoleg Plant a Theuluoedd, Pennaeth Ysgol y Gwyddorau Seicolegol, Prifysgol Manceinion (Wrecsam yn unig)
Mae ymchwil yr Athro Calam ar fagu plant ac ymaddasiad plant yn canolbwyntio'n arbennig ar broblemau ymddygiad plant ifanc, ac yn benodol ar ddulliau o gyflwyno a chymhwyso hynny i gyd-destunau newydd a grwpiau newydd o gyfranogwyr. Mae hi'n cydweithio â'r Athro Matt Sanders a'i dîm ym Mhrifysgol Queensland, Awstralia, mewn gwaith ymchwil ar ddulliau newydd o roi ymyriadau magu plant ar waith, gan gynnwys dulliau hunan-gyfeiriadol, cyfryngol a rhai sy'n defnyddio'r rhyngrwyd o gyflwyno Rhaglen Magu Plant Gadarnhaol y Tair P. Mae hi a'i chydweithwyr hefyd yn profi ffyrdd o sicrhau'r cyfranogiad mwyaf posib gan rieni mewn rhaglenni ar gyfer rhieni plant sy'n dioddef o asthma a diabetes, yn ogystal â threialu dull newydd, y Tair P i Fabanod. Mae ymyriadau magu plant i deuluoedd lle mae gan riant anawsterau iechyd meddwl sylweddol hefyd ar waith, yn cynnwys treial ar-lein i rieni ag anhwylder deubegynol, wedi'i ariannu gan y Cyngor Ymchwil Feddygol.

Angela Bourge, Cyngor Caerdydd ac Andy Senior, Plant yng Nghymru (Caerdydd a Wrecsam)
Mae Angela Bourge wedi'i chyflogi fel Rheolwr Gweithredol gyda Gwasanaethau Plant Caerdydd, lle mae hi'n gyfrifol am Adnoddau Plant. Cefndir gwaith cymdeithasol sydd gan Angela, gan ei bod wedi gweithio ym maes Gwasanaethau Plant ers 25 mlynedd. Mae'n credu'n angerddol mewn cymorth i deuluoedd ac mae ganddi ddiddordeb arbennig mewn cyfranogiad rhieni.

Mae Andy Senior wedi gweithio ym maes plant a theuluoedd yng Nghymru ers dros 18 mlynedd yn y sectorau statudol a gwirfoddol ac mae ganddo ddiddordeb arbennig mewn datblygu prosiectau, cynllunio ar sail canlyniadau a gwasanaethau ymyrraeth gynnar ac ataliaeth.

Bydd Angela ac Andy yn cyd-gyflwyno canfyddiadau allweddol prosiect ymchwil diweddar ynghylch gwella'r ymgysylltu â thadau a gofalwyr gwryw plant sydd ar y Gofrestr Amddiffyn Plant neu sy'n Blant mewn Angen.

Jonathan Scourfield, Athro Gwaith Cymdeithasol ym Mhrifysgol Caerdydd (Caerdydd a Wrecsam)
Mae gan Jonathan ddiddordebau ymchwil amrywiol ac yn eu plith mae lles plant a gwaith cymdeithasol gyda dynion. Mae ei lyfrau yn cynnwys Gender and Child Protection (Palgrave Macmillan, 2003), Working with Men in Health and Social Care (Sage, 2007, gyda Featherstone a Rivett) a Muslim Childhood (Oxford University Press, 2013, gyda Gilliat-Ray, Khan ac Otri). Ar hyn o bryd mae'n ymchwilio i ymyriadau gyda thadau fel rhan o gymrodoriaeth sy'n cael ei hariannu gan y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol. Testun ei gyflwyniad fydd canfyddiadau arolwg diweddar ar draws y Deyrnas Unedig i ganfod pa fath o waith sy'n cael ei wneud gyda thadau yn y gwasanaethau plant a theuluoedd.  

Lynn McDonald, Athro Ymchwil Gwaith Cymdeithasol, Prifysgol Middlesex, Llundain Datblygydd Rhaglen Teuluoedd ac Ysgolion Ynghyd (FAST) (Caerdydd a Wrecsam)
Athro Ymchwil Gwaith Cymdeithasol ym Mhrifysgol Middlesex yw Lynn McDonald ac mae ganddi ddoethuriaeth mewn Seicoleg. Lynn yw Datblygydd a Sylfaenydd Teuluoedd ac Ysgolion Ynghyd (FAST), sef rhaglen ymyrraeth gynnar ac ataliaeth seiliedig ar dystiolaeth sydd wedi ennill gwobrau ac sydd wedi bod yn effeithiol wrth wella perthnasoedd teuluoedd a meithrin ffactorau amddiffynnol ar gyfer plant a'u teuluoedd. Bydd Lynn yn rhannu gyda'r cynrychiolwyr rai o negeseuon papur BPS "Technique is Not Enough: A framework for ensuring that evidence-based parenting programmes are socially inclusive", yr oedd hi'n un o'i gyd-awduron. Mae'r papur yn edrych ar sut gall rhaglenni magu plant effeithiol sicrhau eu bod yn ymgysylltu â'r rhai sy'n fwyaf tebygol o elwa: rhieni ar incwm isel a'r rheiny sydd ar y cyrion ac wedi'u heithrio'n gymdeithasol. Bydd hi hefyd yn archwilio cyfraddau cadw rhieni lleiafrifol incwm isel, a'r strategaethau sy'n eu cadw mewn cysylltiad. Bydd Lynn hefyd yn rhannu ei phrofiadau o ddatblygu a chyflwyno rhaglen FAST.

Siaradwyr eraill i gael eu cadarnhau

COST:
Aelodau: £60                  Heb fod yn Aelodau: £70

Anfonwch e-bost i bookings os ydych angen ffurflen archebu ac anfon nol i: 
Plant yng Nghymru
25 Plas Winsor
Caerdydd  CF10 3BZ

Neu Ffacs i: 029 2034 3134
Neu Cofrestrwch ar-lein YMA am Dyddiad Caerdydd 
Neu Cofrestrwch ar-lein YMA am Dyddiad Wrecsam


Os oes gennych ddiddordeb yng nghyrsiau Plant yng Nghymru yn y dyfodol, ewch i'n gwefan neu ymunwch a'n rhestr bostio
 **Cofiwch y gallwch fynychu am gyfradd ratach os yw'ch corff chi'n aelod o Plant yng Nghymru. Ymunwch yma**

CiW Logo with txt

Parents' Week Conference:

Engaging parents in family and parenting support services
         
Wednesday, 18 September 2013; 9.30am - 4pm
Future Inns, Cardiff Bay
Tuesday, 24 September 2013; 9.30am - 4pm
Holt Lodge, Wrexham



Children in Wales' Parents' Week Conference this year will be around the theme of engaging parents in family and parenting support services.

Family and parenting support services provided by Flying Start, Families First and through other funding streams are increasingly being challenged to extend their reach to vulnerable families. The focus of the event will be on research evidence around engaging families and practical examples of what different areas are doing to successfully engage families.  We hope the event will increase delegates understanding and give them the opportunity to consider their own policy and practice alongside sharing experiences and best practice. 

Who should attend?
Professionals providing family and parenting support and anyone with a policy lead or interest in family and parenting support.

Confirmed Speakers:
Alison Prowle, Senior Lecturer Early Childhood, University of Worcester (Cardiff only)
Alison has extensive experience of early years provision and family interventions as an academic, a front-line Practitioner and a Senior Manager in local government.    She began her career as a Primary School Teacher. As integrated Services Manager for Children and Families in Blaenau Gwent, a post held until April 2012, Alison was responsible for managing a range of services for children, young people and families including Early Years and Childcare Services, Flying Start, Integrated Children's Centres, Parenting provision, Play provision and Education Welfare Services.  She also played an active role in the Welsh Government Pioneer phase of the Families First Initiative.  Since April 2013 Alison has been teaching and researching in the area of Early Years, Parenting and Families at the Centre for Early Childhood, University of Worcester. She will be talking about importance of readiness for change in delivering parenting interventions for troubled families. 

Lorraine Khan, Associate Director for Children and Young People at the Centre for Mental Health and a Senior Research Fellow - Institute of Psychiatry - Kings College, London (Cardiff only)
Since 2009, Lorraine and the Centre for Mental Health's Chief Health Economist have been investigating ways to improve parents' access to and engagement with evidence based parenting programmes. Positive parenting techniques have a major contribution to make in protecting the life chances of children with early behavioural problems. The Centre for Mental Health has completed a number of reports investigating the cost effectiveness of parenting programmes and the barriers and facilitators shaping the effectiveness of programmes for parents and children in real life settings. Lorraine will be talking about this work as well as some of the follow-up projects supporting frontline practice.

Professor Judy Hutchings OBE, Director of the Centre for Evidence Based Early Intervention (CEBEI), Bangor University (Cardiff only)
Professor Judy Hutchings has worked in North Wales since 1973, for many years as a Consultant Clinical Psychologist, working with children with significant behavioural difficulties. She undertakes research with referred children and their families and early preventive work with parents, children and teachers. She has held grants totalling over £1.5 million and has published extensively. She has lectured and taught internationally including in Finland, Denmark, Ireland, Australia, Poland and Portugal. She will be sharing her insights from 40 years of experience in providing support to parents and children and will be talking about how services can be better joined up to work more effectively with families.

Antonia Bridges, Flying Start Project Manager for the Vale of Glamorgan (Wrexham only)
Antonia is a qualified Social Worker who previously worked with teenagers in the care system and then moved into the Intake team of the Vale of Glamorgan within Children's Social Services as a Senior Practitioner. In 2004 she became the Sure Start Manager in the Vale of Glamorgan where she developed a Young Parents project.  With the expansion of Flying Start she was seconded into the Welsh Government for one year to support expansion nationally.  During this time she was privileged to be able to visit every Flying Start project in Wales, assessing and supporting their expansion programmes.    She has now returned to her role as Flying Start Project Manager for the Vale of Glamorgan and will share her insights and experiences of engaging families effectively in parenting support services.

Rachel Calam, Professor of Child and Family Psychology, Head of the School of Psychological Sciences, University of Manchester (Wrexham only)
Professor Calam's research in parenting and child adjustment has a particular focus on young children's behaviour problems, and particularly forms of delivery and application to new contexts and participant groups.  She collaborates with Professor Matt Sanders and his team at the University of Queensland, Australia, on research on novel forms of implementation of parenting interventions which include self-directed, media and internet-based delivery of the Triple P Positive Parenting Program.  She and colleagues are also testing ways of maximising parent participation in programmes for parents of children with asthma and diabetes and are also trialling a new approach, Baby Triple P. Studies of parenting intervention for families with a parent with significant mental health difficulties are under way including an online trial for parents with bipolar disorder funded by the Medical Research Council

Angela Bourge, Cardiff Council & Andy Senior, Children in Wales (Cardiff and Wrexham)
Angela Bourge is employed as an Operational Manager with Cardiff Children's Services where she has responsibility for Children's Resources. Angela has a social work background, having worked in Children's Services for 25 year. She has a passion for family support and a particular interest in parent participation.

Andy Senior has worked in the children and families field in Wales for over 18 years in both the statutory and voluntary sectors, and has a particular interest in project development, outcomes based planning and early intervention and prevention services.

Angela and Andy will be co-presenting the key findings of a recent research project around improving the engagement of the fathers and male carers of children on the Child Protection Register or who are Children in Need.

Jonathan Scourfield, Professor of Social Work at Cardiff University (Cardiff and Wrexham)
Jonathan Scourfield has varied research interests, among which are child welfare and social work with men. His books include Gender and Child Protection (Palgrave Macmillan, 2003), Working with Men in Health and Social Care (Sage, 2007, with Featherstone and Rivett) and Muslim Childhood (Oxford University Press, 2013, with Gilliat-Ray, Khan and Otri). He is currently researching interventions with fathers as part of a fellowship funded by the Economic and Social Research Council. His presentation will be the findings of a recent UK-wide survey to find out what kind of work is being done with fathers in child and family services.

Lynn McDonald, Professor of Social Work Research, Middlesex University, London
Families and Schools Together (FAST) Programme Developer (Cardiff and Wrexham)
Lynn McDonald is a Professor of Social Work Research at Middlesex University and has a doctorate in Psychology. Lynn is the Programme Developer and founder of Families and Schools Together (FAST), which is an award winning evidence based early intervention and prevention programme that has proven effective in enhancing family relationships and building protective factors for children and their families. Lynn will share with delegates some of the messages from the BPS "Technique is Not Enough: A framework for ensuring that evidence-based parenting programmes are socially inclusive" paper which she co-authored. The paper explores how effective parenting programmes can ensure they engage those most likely to benefit: parents on low income and those who are marginalised and socially excluded. She will also explore retention rates of low income minority parents, and the strategies which keep them involved. Lynn will also share her experiences developing and delivering the FAST programme.

Other speakers to be confirmed

COST:
Members: £60                  Non-members: £70

Please email bookings if you require a booking form and send back to:
Children in Wales
25 Windsor Place
Cardiff  CF10 3BZ

Or Fax to: 029 2034 3134
Or register online HERE for Cardiff Date
Or register online HERE for Wrexham Date

If you are interested in Children in Wales courses, please visit our
**Remember that you can attend at a cheaper rate if your organisation is a member of Children in WalesJoin here**