Tuesday, 2 July 2013

Parents' Week Conference: Engaging Parents in Family and Parenting Support Services/ Cynhadledd Wythnos Rhieni: Sicrhau Ymgysylltu Rhwng Rhieni a Gwasanaethau Cymorth i Deuluoedd a Rhieni

CiW Logo with txt

Cynhadledd Wythnos Rhieni:

Sicrhau ymgysylltu rhwng rhieni a gwasanaethau cymorth i deuluoedd a rhieni
        


Dydd Mercher, 18 Medi 2013; 9.30am - 4pm
Future Inns, Bae Caerdydd
Dydd Mawrth, 24 Medi 2013; 9.30yb - 4yp
Holt Lodge, Wrecsam




Bydd Cynhadledd Wythnos Rhieni Plant yng Nghymru eleni yn ymwneud â sicrhau ymgysylltu rhwng rhieni a gwasanaethau cymorth i deuluoedd a rhieni.

Mae'r gwasanaethau cymorth i deuluoedd a rhieni sy'n cael eu darparu gan Dechrau'n Deg, Teuluoedd yn Gyntaf a thrwy lifoedd ariannu eraill yn cael eu herio fwy i estyn allan i deuluoedd agored i niwed. Ffocws y digwyddiad hwn fydd tystiolaeth ymchwil ynghylch ymgysylltu â theuluoedd ac enghreifftiau ymarferol o'r hyn mae gwahanol ardaloedd yn ei wneud i greu cysylltiad llwyddiannus â theuluoedd. Rydym yn gobeithio y bydd y digwyddiad yn cynyddu dealltwriaeth cynrychiolwyr ac yn rhoi cyfle iddynt ystyried eu polisi a'u hymarfer eu hunain, ochr yn ochr â rhannu profiadau ac arfer gorau. 

Pwy ddylai fod yn bresennol?
Gweithwyr proffesiynol sy'n darparu cymorth i deuluoedd a rhieni ac unrhyw un sydd â diddordeb mewn cymorth i deuluoedd a rhieni neu y mae hynny'n brif faes polisi iddynt.

Siaradwyr sydd wedi'u Cadarnhau:
Alison Prowle, Uwch Ddarlithydd Plentyndod Cynnar, Prifysgol Caerwrangon (Caerdydd yn unig)
Mae gan Alison brofiad helaeth o ddarpariaeth blynyddoedd cynnar ac ymyriadau teulu fel academydd, fel ymarferydd rheng flaen ac fel uwch reolwr ym maes llywodraeth leol. Ar ddechrau ei gyrfa roedd yn Athrawes Ysgol Gynradd. Yn ystod ei chyfnod fel Rheolwr Gwasanaethau Integredig ar gyfer Plant a Theuluoedd ym Mlaenau Gwent, swydd a ddaliodd tan Ebrill 2012, Alison oedd yn gyfrifol am reoli ystod o wasanaethau i blant, pobl ifanc a theuluoedd, yn cynnwys gwasanaethau Blynyddoedd Cynnar a Gofal Plant, Dechrau'n Deg, Canolfannau Integredig i Blant, Darpariaeth Magu Plant, Darpariaeth Chwarae a Gwasanaethau Lles Addysg. Bu hefyd yn chwarae rhan weithredol yng ngham Arloesi Llywodraeth Cymru o fenter Teuluoedd yn Gyntaf. Ers mis Ebrill 2013 mae Alison wedi bod yn dysgu ac yn ymchwilio ym maes y Blynyddoedd Cynnar, Magu Plant a Theuluoedd yn y Ganolfan Plentyndod Cynnar, Prifysgol Caerwrangon. Bydd hi'n trafod pwysigrwydd bod yn barod i newid wrth gyflwyno ymyriadau magu plant i deuluoedd cythryblus.

Lorraine Khan, Cyfarwyddwr Cyswllt Plant a Phobl Ifanc yn y Ganolfan Iechyd Meddwl ac Uwch Gymrawd Ymchwil - Sefydliad Seiciatreg - Coleg Kings, Llundain (Caerdydd yn unig)
Ers 2009, mae Lorraine a Phrif Economydd Iechyd y Ganolfan Iechyd Meddwl wedi bod yn ymchwilio i ffyrdd o wella mynediad rhieni at raglenni magu plant sydd wedi'u seilio ar dystiolaeth a'u hymwneud â hwy. Mae gan dechnegau cadarnhaol wrth fagu plant gyfraniad pwysig i'w wneud o ran diogelu cyfleoedd bywyd plant sydd â phroblemau ymddygiad cynnar. Mae'r Ganolfan Iechyd Meddwl wedi cwblhau nifer o adroddiadau yn ymchwilio i gost-effeithiolrwydd rhaglenni magu plant a'r rhwystrau a'r hwyluswyr sy'n dylanwadu ar effeithiolrwydd rhaglenni i rieni a phlant mewn lleoliadau bywyd go iawn. Bydd Lorraine yn siarad am y gwaith hwn, yn ogystal ag am rai o'r prosiectau dilynol sy'n cynnal ymarfer rheng flaen.

Yr Athro Judy Hutchings OBE, Cyfarwyddwr y Ganolfan ar gyfer Ymyrraeth Gynnar ar sail Tystiolaeth (CEBEI), Prifysgol Bangor (Caerdydd yn unig)
Mae'r Athro Judy Hutchings wedi gweithio yng Ngogledd Cymru ers 1973, fel Seicolegydd Clinigol Ymgynghorol am flynyddoedd lawer, gan weithio gyda phlant sydd ag anawsterau sylweddol o ran ymddygiad. Mae hi'n gwneud gwaith ymchwil gyda phlant a fu'n destun atgyfeiriad a'u teuluoedd, a gwaith ataliol cynnar gyda rhieni, plant ac athrawon.

Llwyddodd i sicrhau grantiau gwerth mwy na £1.5 miliwn ac mae wedi cyhoeddi'n helaeth. Mae wedi darlithio a dysgu yn rhyngwladol, gan gynnwys yn y Ffindir, Denmarc, Iwerddon, Awstralia, gwlad Pwyl a Phortwgal. Bydd hi'n rhannu peth o'r hyn mae hi wedi'i ddysgu yn sgîl 40 mlynedd o brofiad o ddarparu cefnogaeth i rieni a phlant, a bydd yn trafod sut gellid creu gwell cysylltiad rhwng gwasanaethau er mwyn gweithio'n fwy effeithiol gyda theuluoedd.

Antonia Bridges, Rheolwr Prosiect Dechrau'n Deg ar gyfer Bro Morgannwg (Wrecsam yn unig)
Gweithiwr Cymdeithasol Cymwysedig yw Antonia, a fu gynt yn gweithio gyda phobl ifanc yn eu harddegau yn y system ofal, cyn symud i dîm Derbyniadau Gwasanaethau Cymdeithasol i Blant Bro Morgannwg fel Uwch Ymarferydd. Yn 2004 daeth yn Rheolwr Cychwyn Cadarn ym Mro Morgannwg, lle datblygodd brosiect Rhieni Ifanc. Wrth i Dechrau'n Deg gael ei ehangu, cafodd ei secondio i Lywodraeth Cymru am flwyddyn er mwyn cynnal yr ehangu ar lefel genedlaethol. Yn ystod y cyfnod hwn, cafodd y fraint o fedru ymweld â phob prosiect Dechrau'n Deg yng Nghymru, gan asesu a chefnogi eu rhaglenni ehangu. Mae bellach wedi dychwelyd i'w rôl fel Rheolwr Prosiect Dechrau'n Deg ym Mro Morgannwg, a bydd yn rhannu ei mewnwelediad a'i phrofiadau o ymgysylltu'n effeithiol â theuluoedd mewn gwasanaethau cymorth i fagu plant.

Rachel Calam, Athro Seicoleg Plant a Theuluoedd, Pennaeth Ysgol y Gwyddorau Seicolegol, Prifysgol Manceinion (Wrecsam yn unig)
Mae ymchwil yr Athro Calam ar fagu plant ac ymaddasiad plant yn canolbwyntio'n arbennig ar broblemau ymddygiad plant ifanc, ac yn benodol ar ddulliau o gyflwyno a chymhwyso hynny i gyd-destunau newydd a grwpiau newydd o gyfranogwyr. Mae hi'n cydweithio â'r Athro Matt Sanders a'i dîm ym Mhrifysgol Queensland, Awstralia, mewn gwaith ymchwil ar ddulliau newydd o roi ymyriadau magu plant ar waith, gan gynnwys dulliau hunan-gyfeiriadol, cyfryngol a rhai sy'n defnyddio'r rhyngrwyd o gyflwyno Rhaglen Magu Plant Gadarnhaol y Tair P. Mae hi a'i chydweithwyr hefyd yn profi ffyrdd o sicrhau'r cyfranogiad mwyaf posib gan rieni mewn rhaglenni ar gyfer rhieni plant sy'n dioddef o asthma a diabetes, yn ogystal â threialu dull newydd, y Tair P i Fabanod. Mae ymyriadau magu plant i deuluoedd lle mae gan riant anawsterau iechyd meddwl sylweddol hefyd ar waith, yn cynnwys treial ar-lein i rieni ag anhwylder deubegynol, wedi'i ariannu gan y Cyngor Ymchwil Feddygol.

Angela Bourge, Cyngor Caerdydd ac Andy Senior, Plant yng Nghymru (Caerdydd a Wrecsam)
Mae Angela Bourge wedi'i chyflogi fel Rheolwr Gweithredol gyda Gwasanaethau Plant Caerdydd, lle mae hi'n gyfrifol am Adnoddau Plant. Cefndir gwaith cymdeithasol sydd gan Angela, gan ei bod wedi gweithio ym maes Gwasanaethau Plant ers 25 mlynedd. Mae'n credu'n angerddol mewn cymorth i deuluoedd ac mae ganddi ddiddordeb arbennig mewn cyfranogiad rhieni.

Mae Andy Senior wedi gweithio ym maes plant a theuluoedd yng Nghymru ers dros 18 mlynedd yn y sectorau statudol a gwirfoddol ac mae ganddo ddiddordeb arbennig mewn datblygu prosiectau, cynllunio ar sail canlyniadau a gwasanaethau ymyrraeth gynnar ac ataliaeth.

Bydd Angela ac Andy yn cyd-gyflwyno canfyddiadau allweddol prosiect ymchwil diweddar ynghylch gwella'r ymgysylltu â thadau a gofalwyr gwryw plant sydd ar y Gofrestr Amddiffyn Plant neu sy'n Blant mewn Angen.

Jonathan Scourfield, Athro Gwaith Cymdeithasol ym Mhrifysgol Caerdydd (Caerdydd a Wrecsam)
Mae gan Jonathan ddiddordebau ymchwil amrywiol ac yn eu plith mae lles plant a gwaith cymdeithasol gyda dynion. Mae ei lyfrau yn cynnwys Gender and Child Protection (Palgrave Macmillan, 2003), Working with Men in Health and Social Care (Sage, 2007, gyda Featherstone a Rivett) a Muslim Childhood (Oxford University Press, 2013, gyda Gilliat-Ray, Khan ac Otri). Ar hyn o bryd mae'n ymchwilio i ymyriadau gyda thadau fel rhan o gymrodoriaeth sy'n cael ei hariannu gan y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol. Testun ei gyflwyniad fydd canfyddiadau arolwg diweddar ar draws y Deyrnas Unedig i ganfod pa fath o waith sy'n cael ei wneud gyda thadau yn y gwasanaethau plant a theuluoedd.  

Lynn McDonald, Athro Ymchwil Gwaith Cymdeithasol, Prifysgol Middlesex, Llundain Datblygydd Rhaglen Teuluoedd ac Ysgolion Ynghyd (FAST) (Caerdydd a Wrecsam)
Athro Ymchwil Gwaith Cymdeithasol ym Mhrifysgol Middlesex yw Lynn McDonald ac mae ganddi ddoethuriaeth mewn Seicoleg. Lynn yw Datblygydd a Sylfaenydd Teuluoedd ac Ysgolion Ynghyd (FAST), sef rhaglen ymyrraeth gynnar ac ataliaeth seiliedig ar dystiolaeth sydd wedi ennill gwobrau ac sydd wedi bod yn effeithiol wrth wella perthnasoedd teuluoedd a meithrin ffactorau amddiffynnol ar gyfer plant a'u teuluoedd. Bydd Lynn yn rhannu gyda'r cynrychiolwyr rai o negeseuon papur BPS "Technique is Not Enough: A framework for ensuring that evidence-based parenting programmes are socially inclusive", yr oedd hi'n un o'i gyd-awduron. Mae'r papur yn edrych ar sut gall rhaglenni magu plant effeithiol sicrhau eu bod yn ymgysylltu â'r rhai sy'n fwyaf tebygol o elwa: rhieni ar incwm isel a'r rheiny sydd ar y cyrion ac wedi'u heithrio'n gymdeithasol. Bydd hi hefyd yn archwilio cyfraddau cadw rhieni lleiafrifol incwm isel, a'r strategaethau sy'n eu cadw mewn cysylltiad. Bydd Lynn hefyd yn rhannu ei phrofiadau o ddatblygu a chyflwyno rhaglen FAST.

Siaradwyr eraill i gael eu cadarnhau

COST:
Aelodau: £60                  Heb fod yn Aelodau: £70

Anfonwch e-bost i bookings os ydych angen ffurflen archebu ac anfon nol i: 
Plant yng Nghymru
25 Plas Winsor
Caerdydd  CF10 3BZ

Neu Ffacs i: 029 2034 3134
Neu Cofrestrwch ar-lein YMA am Dyddiad Caerdydd 
Neu Cofrestrwch ar-lein YMA am Dyddiad Wrecsam


Os oes gennych ddiddordeb yng nghyrsiau Plant yng Nghymru yn y dyfodol, ewch i'n gwefan neu ymunwch a'n rhestr bostio
 **Cofiwch y gallwch fynychu am gyfradd ratach os yw'ch corff chi'n aelod o Plant yng Nghymru. Ymunwch yma**

CiW Logo with txt

Parents' Week Conference:

Engaging parents in family and parenting support services
         
Wednesday, 18 September 2013; 9.30am - 4pm
Future Inns, Cardiff Bay
Tuesday, 24 September 2013; 9.30am - 4pm
Holt Lodge, Wrexham



Children in Wales' Parents' Week Conference this year will be around the theme of engaging parents in family and parenting support services.

Family and parenting support services provided by Flying Start, Families First and through other funding streams are increasingly being challenged to extend their reach to vulnerable families. The focus of the event will be on research evidence around engaging families and practical examples of what different areas are doing to successfully engage families.  We hope the event will increase delegates understanding and give them the opportunity to consider their own policy and practice alongside sharing experiences and best practice. 

Who should attend?
Professionals providing family and parenting support and anyone with a policy lead or interest in family and parenting support.

Confirmed Speakers:
Alison Prowle, Senior Lecturer Early Childhood, University of Worcester (Cardiff only)
Alison has extensive experience of early years provision and family interventions as an academic, a front-line Practitioner and a Senior Manager in local government.    She began her career as a Primary School Teacher. As integrated Services Manager for Children and Families in Blaenau Gwent, a post held until April 2012, Alison was responsible for managing a range of services for children, young people and families including Early Years and Childcare Services, Flying Start, Integrated Children's Centres, Parenting provision, Play provision and Education Welfare Services.  She also played an active role in the Welsh Government Pioneer phase of the Families First Initiative.  Since April 2013 Alison has been teaching and researching in the area of Early Years, Parenting and Families at the Centre for Early Childhood, University of Worcester. She will be talking about importance of readiness for change in delivering parenting interventions for troubled families. 

Lorraine Khan, Associate Director for Children and Young People at the Centre for Mental Health and a Senior Research Fellow - Institute of Psychiatry - Kings College, London (Cardiff only)
Since 2009, Lorraine and the Centre for Mental Health's Chief Health Economist have been investigating ways to improve parents' access to and engagement with evidence based parenting programmes. Positive parenting techniques have a major contribution to make in protecting the life chances of children with early behavioural problems. The Centre for Mental Health has completed a number of reports investigating the cost effectiveness of parenting programmes and the barriers and facilitators shaping the effectiveness of programmes for parents and children in real life settings. Lorraine will be talking about this work as well as some of the follow-up projects supporting frontline practice.

Professor Judy Hutchings OBE, Director of the Centre for Evidence Based Early Intervention (CEBEI), Bangor University (Cardiff only)
Professor Judy Hutchings has worked in North Wales since 1973, for many years as a Consultant Clinical Psychologist, working with children with significant behavioural difficulties. She undertakes research with referred children and their families and early preventive work with parents, children and teachers. She has held grants totalling over £1.5 million and has published extensively. She has lectured and taught internationally including in Finland, Denmark, Ireland, Australia, Poland and Portugal. She will be sharing her insights from 40 years of experience in providing support to parents and children and will be talking about how services can be better joined up to work more effectively with families.

Antonia Bridges, Flying Start Project Manager for the Vale of Glamorgan (Wrexham only)
Antonia is a qualified Social Worker who previously worked with teenagers in the care system and then moved into the Intake team of the Vale of Glamorgan within Children's Social Services as a Senior Practitioner. In 2004 she became the Sure Start Manager in the Vale of Glamorgan where she developed a Young Parents project.  With the expansion of Flying Start she was seconded into the Welsh Government for one year to support expansion nationally.  During this time she was privileged to be able to visit every Flying Start project in Wales, assessing and supporting their expansion programmes.    She has now returned to her role as Flying Start Project Manager for the Vale of Glamorgan and will share her insights and experiences of engaging families effectively in parenting support services.

Rachel Calam, Professor of Child and Family Psychology, Head of the School of Psychological Sciences, University of Manchester (Wrexham only)
Professor Calam's research in parenting and child adjustment has a particular focus on young children's behaviour problems, and particularly forms of delivery and application to new contexts and participant groups.  She collaborates with Professor Matt Sanders and his team at the University of Queensland, Australia, on research on novel forms of implementation of parenting interventions which include self-directed, media and internet-based delivery of the Triple P Positive Parenting Program.  She and colleagues are also testing ways of maximising parent participation in programmes for parents of children with asthma and diabetes and are also trialling a new approach, Baby Triple P. Studies of parenting intervention for families with a parent with significant mental health difficulties are under way including an online trial for parents with bipolar disorder funded by the Medical Research Council

Angela Bourge, Cardiff Council & Andy Senior, Children in Wales (Cardiff and Wrexham)
Angela Bourge is employed as an Operational Manager with Cardiff Children's Services where she has responsibility for Children's Resources. Angela has a social work background, having worked in Children's Services for 25 year. She has a passion for family support and a particular interest in parent participation.

Andy Senior has worked in the children and families field in Wales for over 18 years in both the statutory and voluntary sectors, and has a particular interest in project development, outcomes based planning and early intervention and prevention services.

Angela and Andy will be co-presenting the key findings of a recent research project around improving the engagement of the fathers and male carers of children on the Child Protection Register or who are Children in Need.

Jonathan Scourfield, Professor of Social Work at Cardiff University (Cardiff and Wrexham)
Jonathan Scourfield has varied research interests, among which are child welfare and social work with men. His books include Gender and Child Protection (Palgrave Macmillan, 2003), Working with Men in Health and Social Care (Sage, 2007, with Featherstone and Rivett) and Muslim Childhood (Oxford University Press, 2013, with Gilliat-Ray, Khan and Otri). He is currently researching interventions with fathers as part of a fellowship funded by the Economic and Social Research Council. His presentation will be the findings of a recent UK-wide survey to find out what kind of work is being done with fathers in child and family services.

Lynn McDonald, Professor of Social Work Research, Middlesex University, London
Families and Schools Together (FAST) Programme Developer (Cardiff and Wrexham)
Lynn McDonald is a Professor of Social Work Research at Middlesex University and has a doctorate in Psychology. Lynn is the Programme Developer and founder of Families and Schools Together (FAST), which is an award winning evidence based early intervention and prevention programme that has proven effective in enhancing family relationships and building protective factors for children and their families. Lynn will share with delegates some of the messages from the BPS "Technique is Not Enough: A framework for ensuring that evidence-based parenting programmes are socially inclusive" paper which she co-authored. The paper explores how effective parenting programmes can ensure they engage those most likely to benefit: parents on low income and those who are marginalised and socially excluded. She will also explore retention rates of low income minority parents, and the strategies which keep them involved. Lynn will also share her experiences developing and delivering the FAST programme.

Other speakers to be confirmed

COST:
Members: £60                  Non-members: £70

Please email bookings if you require a booking form and send back to:
Children in Wales
25 Windsor Place
Cardiff  CF10 3BZ

Or Fax to: 029 2034 3134
Or register online HERE for Cardiff Date
Or register online HERE for Wrexham Date

If you are interested in Children in Wales courses, please visit our
**Remember that you can attend at a cheaper rate if your organisation is a member of Children in WalesJoin here**


Wednesday, 14 November 2012

CEFNOGI CYNNAR / EARLY SUPPORT

 
Cyflwyniad i Gweithio mewn partneriaeth drwy 
Cefnogi Cynnar


Cefnogi Cynnar yw mecanwaith Llywodraeth Cymru ar gyfer cyflawni gwasanaethau sydd wedi'u cydlynu'n well ac sy'n canolbwyntio'n fwy ar y teulu, i blant ifanc anabl a'u teuluoedd. Bellach, rydym yn cynnig cwrs hyfforddi undydd ar weithio mewn partneriaeth drwy Cefnogi Cynnar. Bydd yn eich cyflwyno i egwyddorion Cefnogi Cynnar a'u perthnasedd i'ch bywyd a/neu eich gwaith; bydd yn eich herio i feddwl am y gwahaniaeth y gall Cefnogi Cynnar ei wneud i chi; bydd yn eich helpu i ddeall yr amrywiaeth o adnoddau a chymorth y gall Cefnogi Cynnar ei gynnig

Ydych chi'n gweithio gyda phlant ag anghenion ychwanegol ac anableddau? Neu, ydych chi'n rhiant neu'n ofalwr plentyn anabl neu blentyn sydd ag anghenion ychwanegol? Os felly....
  • Ydych chi'n barod ac yn frwdfrydig ac a hoffech chi gael gwybod beth gall Cefnogi Cynnar ei gynnig i chi? 
  • Hoffech chi ddod i'n cwrs hyfforddi undydd i ddysgu rhagor? 
  • Mae'r hyfforddiant am ddim cynnwys ac mae'r deunyddiau wedi'u
Bydd Cefnogi Cynnar yn elfen allweddol o ddiwygio datganiadau yn statudol yng Nghymru - mae hyn yn golygu y bydd yr hyfforddiant yn ddefnyddiol iawn i chi oherwydd bydd yn eich helpu i fynd â Cefnogi Cynnar yn ei flaen yn eich ardal.

Os byddwch yn dod i'r cwrs Cefnogi Cynnar undydd hwn, byddwch yn dysgu llawer mwy am egwyddorion, dull ac adnoddau Cefnogi Cynnar. Bydd yn eich rhoi chi mewn sefyllfa i wella cymorth i deuluoedd a rhoi dull partneriaeth o weithio ar waith. Os gallwch gael dros 10 o bobl at ei gilydd, yna gwnawn ddod atoch chi i gyflwyno'r cwrs. Sylwch mai fersiwn cywasgedig yw hwn o'r cwrs achrededig, hwy, 'Gweithio Mewn Partneriaeth drwy Cefnogi Cynnar' a gynigiwyd yng Nghymru dros y ddwy flynedd ddiwethaf.

Cwrs, 10yb a 4yh ei gynnal:
  • 20.11.12 - Llawr cyntaf Tafarn y Rhos, Rhostrehwfa, Llangefni, Ynys Mon LL77 7YU
  • 04.12.12 - Cartrefi Cymru, Hen Eglwys y Santes Fair, Tremadog, Gwynedd LL49 9RA
  • 25.01.13 - Uned Hyfforddi Gofal Cymdeithasol, Sgwar Eglwys, Tredegar NP22 3EA
Felly, beth sydd angen i chi ei wneud?
Os oes gennych ddiddordeb mewn dysgu rhagor am yr hyfforddiant undydd hwn, ewch i
www.cefnogicynnarcymru.org.uk/training, anfonwch e-bost at Marcia Jones ar
marcia.jones@childreninwales.org.uk neu ffoniwch 029 2034 2434.

Mae amser yn prysur ddirwyn i ben i fanteisio ar yr hyfforddiant hwn AM DDIM -
cadwch le nawr i osgoi cael eich siomi! 







Early Support logo                              New Welsh Gov Logo


 



**CYRSIAU AM DDIM**
**FREE COURSES**
Introduction to Working in Partnership
through Early Support


Early Support is the Welsh Government's mechanism for achieving better co-ordinated and family-focused services for young disabled children and their families. We are now offering a one-day training course on working in partnership through Early Support. It will introduce you to the Early Support principles and their relevance to your life and/or you work; it will challenge you to think about the difference Early Support can make to you; it will help you to understand the range of resources and support Early Support can offer

Do you work with children with additional needs and disabilities? Or are you the parent or carer of a disabled child or a child with additional needs? If so....
  • Are you willing and enthusiastic and would like to find out what Early Support can offer you? 
  • Would you like to come to our one-day training course to learn more? 
  • The training is free and materials are included
Early Support will be a key element of the statutory reform of statementing in Wales - this means that the training will be very useful to you because it will help you to take Early Support forward in your area.

If you attend this one-day Early Support course you will learn much more about the Early Support principles, approach and resources. It will position you to improve support for families and implement a partnership approach to working. Note that this is a condensed version of the longer accredited Working in Partnership through Early Support course that has been offered in Wales over the last two years.

Courses, 10am to 4pm at:
  • 20.11.12 - 1st Floor Tafarn y Rhos, Rhostrehwfa, Llangefni, Anglesey LL77 7YU
  • 4.12.12 - Cartrefi Cymru Office, Former Saint Mary's Church, Tremadog, Gwynedd LL49 9RA
  • 25.01.13 - Social Care Training Unit, Church Square, Tredegar NP22 3EA
So, what do you need to do?
If you are interested in finding out more about this one-day training then please visit
www.earlysupportwales.org.uk/training, send an email to Marcia Jones on
marcia.jones@childreninwales.org.uk or call on 029 2034 2434.

Time is running out to take advantage of this FREE training - so book now to avoid
disappointment!

Wednesday, 10 October 2012

RNIB CYMRU - Diwrnod o Weithgareddau i'r Teulu / Family Activity Day

Dydd Sadwrn 17eg Tachwedd, 12 - 5pm
Gwersyll yr Urdd Glan-llyn, Y Bala
£12 i oedolion / £10 i blant
(Mae'r pris yn cynnwys cinio a'r holl
weithgareddau/cyfarpar ar gyfer y
diwrnod!)
Am ragor o wybodaeth, neu i archebu lle,
cofiwch gysylltu!
Beth sydd ar gael:
Cinio ar ôl cyrraedd!
Cwrs rhaffau uchel
Taith i'r llyn
Canwio
* Nodwch y gall y tywydd effeithio ar y
gweithgareddau a fydd ar gael!
* Cofiwch wisgo / dod â dillad priodol! Gallwch
gael eich gwlychu!
* Rhaid trefnu lle erbyn 2/11/2012!
Jenny Jones –
Sw

Saturday 17th November, 12 - 5pm
Gwersyll yr Urdd Glan-llyn, Bala
£12 per adult / £10 per child
(This includes lunch and all the activities/
equipment for the day!)
What’s included:
Lunch on arrival!
High Ropes course
Lake trip
Canoeing
*Please note activities may change depending
on the weather!
*Please remember to wear / bring appropriate
clothing! You may get wet!
* Places must be booked by 2/11/2012!
For more information or to book a place
please don't hesitate to get in touch!
What’s included:
Lunch on arrival!
High Ropes course
Lake trip
Canoeing
*Please note activities may change depending
on the weather!
*Please remember to wear / bring appropriate
clothing! You may get wet!
* Places must be booked by 2/11/2012!
Jenny Jones -
Children and Families Support Officer
07776284068 or jennifer.jones@rnib
yddog Cefnogi Plant a Theuluoedd 07776284068 neu jennifer.jones@rnib.org.uk