Cynhadledd Wythnos Rhieni:
Sicrhau ymgysylltu rhwng rhieni a gwasanaethau cymorth i deuluoedd a rhieni
|
Dydd Mercher, 18 Medi 2013; 9.30am - 4pm
Future Inns, Bae Caerdydd
Dydd Mawrth, 24 Medi 2013; 9.30yb - 4yp
Holt Lodge, Wrecsam
|
Bydd Cynhadledd Wythnos Rhieni Plant yng Nghymru eleni yn ymwneud â sicrhau ymgysylltu rhwng rhieni a gwasanaethau cymorth i deuluoedd a rhieni.
Mae'r gwasanaethau cymorth i deuluoedd a rhieni sy'n cael eu darparu gan Dechrau'n Deg, Teuluoedd yn Gyntaf a thrwy lifoedd ariannu eraill yn cael eu herio fwy i estyn allan i deuluoedd agored i niwed. Ffocws y digwyddiad hwn fydd tystiolaeth ymchwil ynghylch ymgysylltu â theuluoedd ac enghreifftiau ymarferol o'r hyn mae gwahanol ardaloedd yn ei wneud i greu cysylltiad llwyddiannus â theuluoedd. Rydym yn gobeithio y bydd y digwyddiad yn cynyddu dealltwriaeth cynrychiolwyr ac yn rhoi cyfle iddynt ystyried eu polisi a'u hymarfer eu hunain, ochr yn ochr â rhannu profiadau ac arfer gorau.
Pwy ddylai fod yn bresennol?
Gweithwyr proffesiynol sy'n darparu cymorth i deuluoedd a rhieni ac unrhyw un sydd â diddordeb mewn cymorth i deuluoedd a rhieni neu y mae hynny'n brif faes polisi iddynt.
Siaradwyr sydd wedi'u Cadarnhau:
Alison Prowle, Uwch Ddarlithydd Plentyndod Cynnar, Prifysgol Caerwrangon (Caerdydd yn unig)
Mae gan Alison brofiad helaeth o ddarpariaeth blynyddoedd cynnar ac ymyriadau teulu fel academydd, fel ymarferydd rheng flaen ac fel uwch reolwr ym maes llywodraeth leol. Ar ddechrau ei gyrfa roedd yn Athrawes Ysgol Gynradd. Yn ystod ei chyfnod fel Rheolwr Gwasanaethau Integredig ar gyfer Plant a Theuluoedd ym Mlaenau Gwent, swydd a ddaliodd tan Ebrill 2012, Alison oedd yn gyfrifol am reoli ystod o wasanaethau i blant, pobl ifanc a theuluoedd, yn cynnwys gwasanaethau Blynyddoedd Cynnar a Gofal Plant, Dechrau'n Deg, Canolfannau Integredig i Blant, Darpariaeth Magu Plant, Darpariaeth Chwarae a Gwasanaethau Lles Addysg. Bu hefyd yn chwarae rhan weithredol yng ngham Arloesi Llywodraeth Cymru o fenter Teuluoedd yn Gyntaf. Ers mis Ebrill 2013 mae Alison wedi bod yn dysgu ac yn ymchwilio ym maes y Blynyddoedd Cynnar, Magu Plant a Theuluoedd yn y Ganolfan Plentyndod Cynnar, Prifysgol Caerwrangon. Bydd hi'n trafod pwysigrwydd bod yn barod i newid wrth gyflwyno ymyriadau magu plant i deuluoedd cythryblus.
Lorraine Khan, Cyfarwyddwr Cyswllt Plant a Phobl Ifanc yn y Ganolfan Iechyd Meddwl ac Uwch Gymrawd Ymchwil - Sefydliad Seiciatreg - Coleg Kings, Llundain (Caerdydd yn unig)
Ers 2009, mae Lorraine a Phrif Economydd Iechyd y Ganolfan Iechyd Meddwl wedi bod yn ymchwilio i ffyrdd o wella mynediad rhieni at raglenni magu plant sydd wedi'u seilio ar dystiolaeth a'u hymwneud â hwy. Mae gan dechnegau cadarnhaol wrth fagu plant gyfraniad pwysig i'w wneud o ran diogelu cyfleoedd bywyd plant sydd â phroblemau ymddygiad cynnar. Mae'r Ganolfan Iechyd Meddwl wedi cwblhau nifer o adroddiadau yn ymchwilio i gost-effeithiolrwydd rhaglenni magu plant a'r rhwystrau a'r hwyluswyr sy'n dylanwadu ar effeithiolrwydd rhaglenni i rieni a phlant mewn lleoliadau bywyd go iawn. Bydd Lorraine yn siarad am y gwaith hwn, yn ogystal ag am rai o'r prosiectau dilynol sy'n cynnal ymarfer rheng flaen.
Yr Athro Judy Hutchings OBE, Cyfarwyddwr y Ganolfan ar gyfer Ymyrraeth Gynnar ar sail Tystiolaeth (CEBEI), Prifysgol Bangor (Caerdydd yn unig)
Mae'r Athro Judy Hutchings wedi gweithio yng Ngogledd Cymru ers 1973, fel Seicolegydd Clinigol Ymgynghorol am flynyddoedd lawer, gan weithio gyda phlant sydd ag anawsterau sylweddol o ran ymddygiad. Mae hi'n gwneud gwaith ymchwil gyda phlant a fu'n destun atgyfeiriad a'u teuluoedd, a gwaith ataliol cynnar gyda rhieni, plant ac athrawon.
Llwyddodd i sicrhau grantiau gwerth mwy na £1.5 miliwn ac mae wedi cyhoeddi'n helaeth. Mae wedi darlithio a dysgu yn rhyngwladol, gan gynnwys yn y Ffindir, Denmarc, Iwerddon, Awstralia, gwlad Pwyl a Phortwgal. Bydd hi'n rhannu peth o'r hyn mae hi wedi'i ddysgu yn sgîl 40 mlynedd o brofiad o ddarparu cefnogaeth i rieni a phlant, a bydd yn trafod sut gellid creu gwell cysylltiad rhwng gwasanaethau er mwyn gweithio'n fwy effeithiol gyda theuluoedd.
Antonia Bridges, Rheolwr Prosiect Dechrau'n Deg ar gyfer Bro Morgannwg (Wrecsam yn unig)
Gweithiwr Cymdeithasol Cymwysedig yw Antonia, a fu gynt yn gweithio gyda phobl ifanc yn eu harddegau yn y system ofal, cyn symud i dîm Derbyniadau Gwasanaethau Cymdeithasol i Blant Bro Morgannwg fel Uwch Ymarferydd. Yn 2004 daeth yn Rheolwr Cychwyn Cadarn ym Mro Morgannwg, lle datblygodd brosiect Rhieni Ifanc. Wrth i Dechrau'n Deg gael ei ehangu, cafodd ei secondio i Lywodraeth Cymru am flwyddyn er mwyn cynnal yr ehangu ar lefel genedlaethol. Yn ystod y cyfnod hwn, cafodd y fraint o fedru ymweld â phob prosiect Dechrau'n Deg yng Nghymru, gan asesu a chefnogi eu rhaglenni ehangu. Mae bellach wedi dychwelyd i'w rôl fel Rheolwr Prosiect Dechrau'n Deg ym Mro Morgannwg, a bydd yn rhannu ei mewnwelediad a'i phrofiadau o ymgysylltu'n effeithiol â theuluoedd mewn gwasanaethau cymorth i fagu plant.
Rachel Calam, Athro Seicoleg Plant a Theuluoedd, Pennaeth Ysgol y Gwyddorau Seicolegol, Prifysgol Manceinion (Wrecsam yn unig)
Mae ymchwil yr Athro Calam ar fagu plant ac ymaddasiad plant yn canolbwyntio'n arbennig ar broblemau ymddygiad plant ifanc, ac yn benodol ar ddulliau o gyflwyno a chymhwyso hynny i gyd-destunau newydd a grwpiau newydd o gyfranogwyr. Mae hi'n cydweithio â'r Athro Matt Sanders a'i dîm ym Mhrifysgol Queensland, Awstralia, mewn gwaith ymchwil ar ddulliau newydd o roi ymyriadau magu plant ar waith, gan gynnwys dulliau hunan-gyfeiriadol, cyfryngol a rhai sy'n defnyddio'r rhyngrwyd o gyflwyno Rhaglen Magu Plant Gadarnhaol y Tair P. Mae hi a'i chydweithwyr hefyd yn profi ffyrdd o sicrhau'r cyfranogiad mwyaf posib gan rieni mewn rhaglenni ar gyfer rhieni plant sy'n dioddef o asthma a diabetes, yn ogystal â threialu dull newydd, y Tair P i Fabanod. Mae ymyriadau magu plant i deuluoedd lle mae gan riant anawsterau iechyd meddwl sylweddol hefyd ar waith, yn cynnwys treial ar-lein i rieni ag anhwylder deubegynol, wedi'i ariannu gan y Cyngor Ymchwil Feddygol.
Angela Bourge, Cyngor Caerdydd ac Andy Senior, Plant yng Nghymru (Caerdydd a Wrecsam)
Mae Angela Bourge wedi'i chyflogi fel Rheolwr Gweithredol gyda Gwasanaethau Plant Caerdydd, lle mae hi'n gyfrifol am Adnoddau Plant. Cefndir gwaith cymdeithasol sydd gan Angela, gan ei bod wedi gweithio ym maes Gwasanaethau Plant ers 25 mlynedd. Mae'n credu'n angerddol mewn cymorth i deuluoedd ac mae ganddi ddiddordeb arbennig mewn cyfranogiad rhieni.
Mae Andy Senior wedi gweithio ym maes plant a theuluoedd yng Nghymru ers dros 18 mlynedd yn y sectorau statudol a gwirfoddol ac mae ganddo ddiddordeb arbennig mewn datblygu prosiectau, cynllunio ar sail canlyniadau a gwasanaethau ymyrraeth gynnar ac ataliaeth.
Bydd Angela ac Andy yn cyd-gyflwyno canfyddiadau allweddol prosiect ymchwil diweddar ynghylch gwella'r ymgysylltu â thadau a gofalwyr gwryw plant sydd ar y Gofrestr Amddiffyn Plant neu sy'n Blant mewn Angen.
Jonathan Scourfield, Athro Gwaith Cymdeithasol ym Mhrifysgol Caerdydd (Caerdydd a Wrecsam)
Mae gan Jonathan ddiddordebau ymchwil amrywiol ac yn eu plith mae lles plant a gwaith cymdeithasol gyda dynion. Mae ei lyfrau yn cynnwys Gender and Child Protection (Palgrave Macmillan, 2003), Working with Men in Health and Social Care (Sage, 2007, gyda Featherstone a Rivett) a Muslim Childhood (Oxford University Press, 2013, gyda Gilliat-Ray, Khan ac Otri). Ar hyn o bryd mae'n ymchwilio i ymyriadau gyda thadau fel rhan o gymrodoriaeth sy'n cael ei hariannu gan y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol. Testun ei gyflwyniad fydd canfyddiadau arolwg diweddar ar draws y Deyrnas Unedig i ganfod pa fath o waith sy'n cael ei wneud gyda thadau yn y gwasanaethau plant a theuluoedd.
Lynn McDonald, Athro Ymchwil Gwaith Cymdeithasol, Prifysgol Middlesex, Llundain Datblygydd Rhaglen Teuluoedd ac Ysgolion Ynghyd (FAST) (Caerdydd a Wrecsam)
Athro Ymchwil Gwaith Cymdeithasol ym Mhrifysgol Middlesex yw Lynn McDonald ac mae ganddi ddoethuriaeth mewn Seicoleg. Lynn yw Datblygydd a Sylfaenydd Teuluoedd ac Ysgolion Ynghyd (FAST), sef rhaglen ymyrraeth gynnar ac ataliaeth seiliedig ar dystiolaeth sydd wedi ennill gwobrau ac sydd wedi bod yn effeithiol wrth wella perthnasoedd teuluoedd a meithrin ffactorau amddiffynnol ar gyfer plant a'u teuluoedd. Bydd Lynn yn rhannu gyda'r cynrychiolwyr rai o negeseuon papur BPS "Technique is Not Enough: A framework for ensuring that evidence-based parenting programmes are socially inclusive", yr oedd hi'n un o'i gyd-awduron. Mae'r papur yn edrych ar sut gall rhaglenni magu plant effeithiol sicrhau eu bod yn ymgysylltu â'r rhai sy'n fwyaf tebygol o elwa: rhieni ar incwm isel a'r rheiny sydd ar y cyrion ac wedi'u heithrio'n gymdeithasol. Bydd hi hefyd yn archwilio cyfraddau cadw rhieni lleiafrifol incwm isel, a'r strategaethau sy'n eu cadw mewn cysylltiad. Bydd Lynn hefyd yn rhannu ei phrofiadau o ddatblygu a chyflwyno rhaglen FAST.
Siaradwyr eraill i gael eu cadarnhau
COST:
Aelodau: £60 Heb fod yn Aelodau: £70
Anfonwch e-bost i bookings os ydych angen ffurflen archebu ac anfon nol i:
Plant yng Nghymru
25 Plas Winsor
Caerdydd CF10 3BZ
Neu E-bost i: bookings@childreninwales.org.uk
Neu Ffacs i: 029 2034 3134
Neu Cofrestrwch ar-lein YMA am Dyddiad Caerdydd
Neu Cofrestrwch ar-lein YMA am Dyddiad Wrecsam
|
Os oes gennych ddiddordeb yng nghyrsiau Plant yng Nghymru yn y dyfodol, ewch i'n gwefan neu ymunwch a'n rhestr bostio
**Cofiwch y gallwch fynychu am gyfradd ratach os yw'ch corff chi'n aelod o Plant yng Nghymru. Ymunwch yma**
|
|
If you are interested in Children in
website or join mailing list
**Remember that you can attend at a cheaper rate if your organisation is a member of Children in
|
No comments:
Post a Comment
Note: only a member of this blog may post a comment.