Wednesday 19 September 2012

CYNLLUNIO YMDDYGIAD / BEHAVIOUR PLANNING

Cynllunio ymddygiad i ymdrin â phroblemau cyffredin mewn plentyndod


Grant Sefydliad Waterloo i gefnogi gweithwyr proffesiynol sy'n gweithio gyda phroblemau cyffredin ar y cyd â Plant yng Nghymru a'r Ymddiriedolaeth Ymyrraeth Gynnar Plant


Early Years children


Dau weithdy undydd cysylltiedig ar gyfer staff proffesiynol sy'n gweithio gyda phlant 0 - 10 mlwydd oed sydd ag amrediad o ddiagnosisau/problemau



gyda'r Athro Judy Hutchings,
Athro Seicoleg Glinigol a Chyfarwyddwr y Ganolfan dros Ymyrraeth Gynnar ar Sail Tystiolaeth, Prifysgol Bangor



Mae llawer o blant ag amrywiol ddiagnosisau yn dioddef problemau cyffredin sy'n her i rieni ond y mae'n bosib eu newid wrth fynd ati'n ofalus, gan gadw mewn cof anghenion penodol plant unigol. Mae'r rhain yn cynnwys anawsterau cysgu a mynd i'r toiled, problemau canolbwyntio a sylw ac anawsterau sy'n gysylltiedig â bwyd ac amserau bwyta.

Mae Sefydliad Waterloo wedi dyfarnu grant i ariannu'r Athro Judy Hutchings i ddarparu dau weithdy i 12 - 15 o staff mewn pum lleoliad ledled Cymru, (Bangor a Sir y Fflint yn y Gogledd, y Drenewydd yn y Canolbarth a Chaerdydd ac Abertawe yn y De). Plant yng Nghymru sy'n ymgymryd â gweinyddiaeth y rhaglen. Yr Ymddiriedolaeth Ymyrraeth Gynnar Plant sy'n ariannu'r costau eraill gan gynnwys deunyddiau ar gyfer y sawl sy'n mynychu. Mae'r gweithdai yn adeiladu ar waith cynharach Judy o weithio i ddatblygu ac ymchwilio ei rhaglen Gwella Sgiliau Rhianta ac fe'u bwriedir ar gyfer gweithwyr proffesiynol sy'n gweithio'n un i un gyda phlant, hyd at ddeng mlwydd oed, sydd ag amrywiaeth o ddiagnosisau/problemau. Mae'r gweithdai hyn yn arbennig o addas ar gyfer gweithwyr proffesiynol sy'n gweithio gyda phlant â phroblemau sydd wedi eu cyfeirio sydd hefyd yn cael anawsterau rheoli gweithgareddau bob dydd.

Nid oes tâl i'w mynychu ac mae pob gweithdy ar agor i 12 i 15 o gyfranogwyr er mwyn sicrhau cefnogaeth ac adborth unigol. Darperir deunyddiau i gefnogi cynllunio ymddygiad ac awgrymir strategaethau i ymdrin â'r phroblemau cyffredin ond gwanychol hyn. Y ffocws yw helpu rhieni i ddod yn well wrth arsylwi ar ymddygiad ac anghenion eu plant a'u disgrifio, gan gydnabod eu heriau eraill er mwyn datblygu nodau realistig a chyraeddadwy.

Caiff y ddau weithdy eu darparu tuag wyth wythnos o'i gilydd ym mhob lleoliad ar gyfer yr un staff, gan gynnig y cyfle i ddychwelyd i ddadansoddi'r cynnydd maent wedi eu gwneud drwy ddefnyddio  cynllunio ymddygiad mewn achos unigol. 

Pwy all fynychu?  Unrhyw un sy'n gweithio'n uniongyrchol gyda rhieni



Y pum Canolfan a dyddiadau'r gweithdai yw:

Y Drenewydd: 25 Chwefror & 29 Ebrill 2013 - 9.00am - 4.30pm
Lleoliad i'w gadarnhau.

Bangor: 26 Chwefror & 30 Ebrill 2013 - 9.00am - 4.30pm
y Ganolfan dros Ymyrraeth Gynnar ar Sail Tystiolaeth, Adeilad Nantlle, Safle Normal, Prifysgol Bangor, Gwynedd LL57 2PZ
01248 383 758

Abertawe: 27 Chwefror & 1 Mai 2013 - 9.00am - 4.30pm
Prosiect Baeau Barnardo's Cymru, 32-36 Stryd Fawr, Abertawe SA1 1LG
01792 455 105

Caerdydd: 28 Chwefror & 2 Mai 2013 - 9.00am - 4.30pm.
Plant yng Nghymru, 25 Plas Winsor, Caerdydd CF10 3BZ
029 2034 2434

Sir y Fflint: 1 Mawrth & 3 Mai 2013 - 9.00am - 4.30pm
Y Ganolfan Westwood, Stryd Tabernacl, Bwcle, Sir y Fflint CH7 2JT
01244 547 017 



Am fwy o gyfleoedd Hyfforddiant yn y Rhaglenni Blynyddoedd Anhygoel cliciwch YMA


Mae gwybodaeth bellach ar gael ar www.incredibleyears.com
neu cysylltwch â Dilys ar 01248 383 758, d.williams@bangor.ac.uk
 Lawrlwythwch ffurflen cadw lle YMA

Behaviour planning to address common childhood problems

Waterloo Foundation Grant to support professionals working with common problems in conjunction with Children in Wales and the Children's Early Intervention Trust

Early Years children

Two linked one-day workshops for professional staff working with children aged 0 - 10 years with a range of diagnoses/problems


with Professor Judy Hutchings,
Professor of Clinical Psychology and Director of the Centre for Evidence Based Early Intervention, Bangor University


Many children with differing diagnoses experience common problems that present challenges for parents but which are amenable to change if approached carefully, bearing in mind the specific needs of individual children. These include sleeping and toileting difficulties, concentration and attention problems and difficulties associated with food and mealtimes.

The Waterloo Foundation has awarded a grant to fund Professor Judy Hutchings to deliver two linked workshops to 12 - 15 staff in each of five locations across Wales, (Bangor and Flintshire in North Wales, Newtown in mid-Wales and Cardiff and Swansea in South Wales). Children in Wales are undertaking the administration for the programme. The Children's Early Intervention Trust is funding other costs including materials for participants. The workshops build on Judy's earlier work in developing and researching her Enhancing Parenting Skills programme and are for professionals working on a one to one basis with children, aged up to ten years, with a variety of diagnoses/problems. These workshops are particularly suitable for professionals working with children with referred problems who also experience difficulties in managing everyday activities.

Attendance is free and each workshop is open to 12 to 15 participants to ensure individual support and feedback. Materials to support behaviour planning and suggested strategies for addressing these common but debilitating problems will be provided. The focus is on helping parents to become better at observing and describing their child's behaviour and needs, recognising their other challenges in order to develop realistic and achievable goals.

The two linked workshops will be delivered approximately eight weeks apart at each location for the same staff, providing an opportunity to return to analyse the progress that they have made in using behaviour planning with an individual case.

Who can attend? Anyone working directly with parents

  
The five Centres and workshop dates are:

Newtown: 25 February & 29 April 2013 - 9.00am - 4.30pm
Venue to be confirmed.

Bangor: 26 February & 30 April 2013 - 9.00am - 4.30pm
Centre for Evidence Based Early Intervention, Nantlle Building, Normal Site, Bangor University, Gwynedd LL57 2PZ
01248 383 758

Swansea: 27 February & 1 May 2013 - 9.00am - 4.30pm
Barnardo's Cymru Bays Project, 32-36 High Street, Swansea SA1 1LG
01792 455 105

Cardiff: 28 February & 2 May 2013 - 9.00am - 4.30pm
Children in Wales, 25 Windsor Place, Cardiff CF10 3BZ
029 2034 2434

Flintshire: 1 March & 3 May 2013 - 9.00am - 4.30pm
The Westwood Centre, Tabernacle Street, Buckley, Flintshire CH7 2JT
01244 547 017 


For more Training opportunities in the Incredible Years Programmes please click HERE 

Further information available on www.incredibleyears.com
or contact Dilys on 01248 383 758, d.williams@bangor.ac.uk
 Download a booking form HERE

No comments:

Post a Comment

Note: only a member of this blog may post a comment.